michel huneault: histoires normales

6
histoires normales michel huneault

Upload: aberystwyth-arts-centre

Post on 11-Mar-2016

216 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

An exhibition of the work of Michel Huneault.

TRANSCRIPT

Page 1: Michel Huneault: Histoires Normales

histoires nor males michel huneault

Page 2: Michel Huneault: Histoires Normales

Cochambamba, Bolivia, 2008

Page 3: Michel Huneault: Histoires Normales

Brooklyn, USA, 2004

Page 4: Michel Huneault: Histoires Normales

Kathmandu, Nepal, 2009

Page 5: Michel Huneault: Histoires Normales

History is determined selectively and what most people

experience as ‘real life’ is largely excluded from the imagery

and narrative which passes on. Michel Huneault’s

photographs in Histoires normales take a broader view

by bringing into the frame the discarded and disregarded, and

through these images of countries which are laden with

expectations largely drawn from mass media - including

Cuba, Bangladesh, Nepal, Afghanistan, Bolivia, USA and

Ukraine - to stimulate the understanding in the viewer that

history is as much a stoic continuum as a series of dramatic

events. These striking photographic images capture moments

of remarkable ordinariness, marking the passing of an

ephemeral action within a setting laden with historical import.

As the photographer remarks; “These moments of remarkable

ordinariness - whose formality can appear staged (but it never is)

- seem to propose themselves as a truer descriptive; a more

authentic backbone of a common contemporary narrative.

History, but more real.”

Michel Huneault has an MA in Latin American Studies and

a Graduate Certificate in Peace and Conflict Resolution

Studies, both from UC Berkeley University. He worked for

several years in international development and peace-building

before being able to fully dedicate himself to his photographic

practice. His career has included roles as a Canadian

diplomat in Kandahar, an electoral observer in Haiti, Ukraine,

Palestine, and Bangladesh, and an NGO worker in Cuba and

Bolivia among other roles. In 2004, he was apprenticed to

Gilles Peress at Magnum Photo in New York City. This

became an important turning point for his photographic work,

which he now pursues professionally; taking on press and

public assignments as well as personal projects.

Among his recent Photographic Awards are Foto8 Award,

London, 2010, the Applied Arts Award for Photojournalism,

Canada, 2010; selection for the Leica Fottografie

International, 2010; First Prize in the LUX/CAPIC

Humanitarian Cause Canada 2009; First Prize in the

LUX/CAPIC Travel, Canada, 2009 and an Honourable

mention in the Prix de la Photographie Paris, 2009.

Michel Huneault was an Artist in Residence at Aberystwyth Arts

Centre’s Creative Units in 2010

Cyflwynir Hanes mewn ffordd ddetholus ac i raddau helaeth mae’r

hyn a brofir gan y rhan fwyaf o bobl fel ‘bywyd real’ yn cael ei adael

allan o’r delweddau a’r naratif a drosglwyddir ymlaen i’r genhedlaeth

nesaf. Mae ffotograffau Michel Huneault yn Histoires normales

yn edrych ar y darlun ehangach trwy ddod â’r hyn a daflwyd o’r

neilltu ac a ddiystyrwyd i mewn i’r ffrâm, a thrwy’r delweddau hyn o

wledydd sydd o dan faich disgwyliadau, oddi wrth y cyfryngau torfol

yn bennaf, gan gynnwys Ciwba, Bangladesh, Nepal, Afghanistan,

Bolivia, UDA ac Ukraine, maent yn gwahodd y gwyliwr i sylweddoli

wrth ystyried hanes bod y pethau cyffredin, o ddydd-i-ddydd, yr un

mor bwysig â chyfres o ddigwyddiadau dramatig. Mae’r delweddau

ffotograffig trawiadol hyn yn cyfleu eiliadau o gyffredinedd eithriadol,

gan osod gweithred ddibwys yn erbyn cefndir sy’n holl-bwysig yn

hanesyddol.

Fel y dywed y ffotograffydd: “Mae’r eiliadau hyn o gyffredinedd llwyr

- ac mae eu ffurfioldeb yn gwbl naturiol - fel pe baent yn cynnig eu

hunain fel disgrifiad mwy cywir; yn asgwrn cefn mwy dilys i’r naratif

cyfoes sy’n rhedeg ochr yn ochr. Yn Hanes, ond yn fwy real.”

Mae gan Michel Huneault MA mewn Astudiaethau Lladin-

Americanaidd a Gradd mewn Astudiaethau Heddwch a Datrysiad

Gwrthdaro, y ddwy radd o Brifysgol Berkeley. Gweithiodd am nifer o

flynyddoedd ym maes datblygiad ac adeiladu-heddwch rhyngwladol

cyn medru ymroddi’n gyfangwbl i’w ymarfer ffotograffig. Mae ei yrfa

wedi cynnwys rolau fel diplomydd Canadaidd yn Kandahar, gwyliwr

etholiadol yn Haiti, Ukraine, Palasteina, a Bangladesh, a gweithiwr

NGO yng Nghiwba a Bolivia ymysg swyddi eraill. Yn 2004, aeth yn

brentis i Gilles Peress ym Magnum Photo yn ninas Efrog Newydd.

Bu’r cyfnod hwn yn drobwynt pwysig yn ei waith ffotograffig sydd

erbyn hyn yn broffesiwn iddo; bellach mae’n ymgymryd â thasgau

cyhoeddus ac i’r Wasg yn ogystal â phrosiectau personol.

Ymysg ei Wobrau Ffotograffig diweddar yw Gwobr y Celfyddydau

Cymhwysol ar gyfer Ffoto-newyddiaduriaeth, Canada, 2010;

detholiad ar gyfer y Leica Fottografie Rhyngwladol, 2010;

Gwobr Gyntaf yn yr Achos Hiwmanitaraidd LUX/CAPIC Canada

2009; Gwobr Gyntaf yng nghystadleuaeth Deithio LUX/CAPIC,

Canada, 2009 a chyfeiriad Anrhydeddus yn y Prix de la

Photographie Paris, 2009.

Roedd Michel Huneault yn Artist Preswyl yn Unedau Creadigol Canolfan

y Celfyddydau Aberystwyth yn 2010

histoires normales michel huneault

cover clawr Malecon, Cuba 2009

Page 6: Michel Huneault: Histoires Normales

histoires normales michel huneault

cano l fan y ce l fyddydau aberystwyth a r ts cent re

www.aberystwythar tscent re .co .uk

Kandahar, Afghanistan 2006

design stephen paul dale [email protected]